These Regulations provide for the licensing of persons involved in the breeding of dogs. Part 2 of the Regulations specifies dog breeding for the purposes of section 13(1) of the Animal Welfare Act 2006 (c.45) (“the Act”). The consequence of this specification is that, subject to qualifying criteria, any person wishing to breed dogs in Wales must obtain a licence from their local authority under these Regulations. This requirement replaces the requirement to obtain a licence under the Breeding of Dogs Act 1973 in Wales.
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer trwyddedu personau sy’n ymwneud â bridio cŵn. Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn diffinio bridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p. 45) (“y Ddeddf”). Canlyniad y dynodiad hwnnw, yn ddarostyngedig i griteria cymhwyso, yw bod rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno bridio cŵn yng Nghymru gael trwydded gan ei awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn. Mae’r gofyniad hwn yn disodli’r gofyniad i gael trwydded o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 yng Nghymru.